22 Ionawr 2020
Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
Annwyl Weinidog,
Nodwn nad ydym wedi derbyn ymateb i'n llythyr dyddiedig 17eg Rhagfyr ynghylch ein pryderon am y toriadau arfaethedig i gyllidebau a phrosiectau Cymraeg yn y gyllideb ddrafft.
Yn y cyfamser, mae'ch sylwadau gerbron Pwyllgor Diwylliant y Senedd ac yn y Siambr yn codi cwestiynau pellach am y toriadau rydych yn cynllunio i gyllidebau penodol i hybu a hyrwyddo'r Gymraeg.
Yn bellach i'n llythyr blaenorol felly, hoffem dderbyn ymatebion i'r cwestiynau canlynol:
· ar ba sail ydych chi wedi penderfynu cwtogi ar gyllideb y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol er mwyn ariannu prosiectau i liniaru Brecsit?
· pam nad ydych chi wedi penderfynu ail-fuddsoddi unrhyw arbedion yng nghyllideb y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol i mewn i brosiectau penodol neu sefydliadau eraill sy'n hyrwyddo'r iaith neu greu siaradwyr Cymraeg?
· ar ba sail benderfynoch chi i beidio â rhoi cynnydd yn unol â chwyddiant i'r llinell gwariant 'Y Gymraeg', sef y llinell gwariant gwerth £20.9 miliwn?
· ar ba sail benderfynoch chi i beidio â rhoi cynnydd yn unol â chwyddiant i'r llinell gwariant 'Comisiynydd y Gymraeg', sef y llinell gwariant gwerth £3.2 miliwn?
· gerbron Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, dywedoch chi fod buddsoddiad yn y Gymraeg yn cael ei phrif-ffrydio yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, a fyddai modd i chi felly restru enghreifftiau o gyllidebau penodol sy'n mynd gwario canran uwch o'i chyllidebau ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a faint yn fwy bydd y buddsoddiadau hyn?
· yn benodol o ran prif-ffrydio buddsoddiad y Llywodraeth yn y Gymraeg, a fyddai modd i chi roi gwybod a fydd, y flwyddyn nesaf, cynnydd yn:
· y canran o brentisiaethau Cymraeg sy'n cael eu hariannu drwy'r gyllideb prentisiaethau;
· y gwariant ar ofal plant a gynhelir drwy gyfrwng Cymraeg;
· y gwariant ar ffilmiau;
· y gwariant ar weithgareddau celfyddydol cyfrwng Cymraeg;
· y gwariant ar addysg bellach cyfrwng Cymraeg.
Byddem yn falch o dderbyn ymateb prydlon i’n hymholiadau.
Yr eiddoch yn gywir,
Bethan Ruth
Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith
copi (dros ebost) i: Suzy Davies AC; Sian Gwenllian AC; Llyr Gruffydd AC, Cadeirydd, Pwyllgor Cyllid; Bethan Sayed AC, Cadeirydd, Pwyllgor Diwylliant; Rebecca Evans AC, Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd; Comisiynydd y Gymraeg; Dathlu’r Gymraeg